
EIN PANEL CYNGHORI

Parchedig Ifan Rhisiart Roberts
Gweinidog wedi ymddeol gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Gwasanaethodd mewn pedair gofalaeth mewn gwahanol rannau o Gymru a bu hefyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru am saith mlynedd. Ef yw Cadeirydd Panel Ymgynghorol CYNNAL.

Rheinallt Armon Thomas, JP, BA, M.Ed
Ganwyd yn Nyffryn Ceiriog, Addysg Gynradd yn Aberfan ac Uwchradd yn Ninbych. Graddio ym Mhrifysgol Bangor a chychwyn ar yrfa dysgu yn Bolton. Dychwelyd i Fangor i ddarlithio yn Y Coleg Normal ac yna yn 1979 cael ei apwyntio fel Cyfarwyddwr cyntaf Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol yn y Brifysgol, Bangor hyd ymddeoliad yn 2000. Yn briod gyda Rowenna ers 1963 a dau o blant Elfyn a Nia a saith o wyrion. Wedi bod yn weithgar yn y byd a’r betws ar hyd ei oes – yn flaenor ers 1966 ac yn gweithredu yn eang o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac yn gyn Lywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru. Wedi bod yn weithgar gyda Cyngor Ysgolion Sul ers 1970 a’r Mudiad Addysg Grefyddol dros yr un cyfnod ynghyd â CYSAGau yn lleol a chenedlaethol. Wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Cymuned am 40 mlynedd, Ynad Heddwch am 25 mlynedd ac yn sylfaenydd Cangen yr Urdd a Chylch Cinio yn lleol. Wedi ei anrhydeddu â’r wisg Wen gan yr Orsedd; Medal Gee er anrhydedd a Thlws “Cyfraniad Oes” gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

Parchedig Canon Mark Owen SCP
Cyn ei ordeinio gweithiodd fel RMN a CPN. Roedd gen i ddiddordeb brwd mewn gofal o'r henoed a dementia er fy mod wedi gweithio ar draws y maes. Hyfforddais ar gyfer gweinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru yng Ngholeg Sant Michael's, Caerdydd, a chefais fy ordeinio'n Ddiacon ac Offeiriad gan yr Esgob Dominic Walker, Esgob Trefynwy yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd,. Fe wnes i wasanaethu fy curad yn Nhredegar. Deuthum yn ddeiliad yn Rhymni ac yna symudais i fod yn Rheithor Cymwynasol Reitholaeth Mynyddislwyn cyn dod yn Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Islwyn Uchaf ac yna'n Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Ardal Gweinidogaeth Islwyn. Roeddwn hefyd yn Ddeon Ardal Bedwellty, Deon Ardal Pont-y-pŵl a deon Ardal Cymoedd Gwent. Ar hyn o bryd rydw i hefyd yn Ganon Eglwys Gadeiriol Casnewydd. Rwyf wedi gwasanaethu ar banel penodiadau Pwyllgor sefydlog DBF a chlerigwyr ar gyfer yr Esgobaeth ac ers blynyddoedd lawer hefyd yn aelod etholedig o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi bod yn gynrychiolydd De Cymru ar gyfer yr RSCM. Rwy'n gwasanaethu ar Dîm Gweinidogaeth Rhyddhad yr Esgobaeth.

Sharon Jenkins
Ar hyn o bryd mae Sharon yn hyfforddi ar gyfer yr Offeiriadaeth yn Sefydliad Padarn Sant. Cyn hynny, bu'n gweithio ochr yn ochr â Wynford Ellis Owen yn Stafell Fyw Caerdydd fel Gweinyddydd y Ganolfan. Yn ddiweddarach, ymgymerodd â rôl Gweinyddydd Swyddfa yn East Cardiff Ministry Area, grŵp o eglwysi Anglicanaidd yn Nwyrain Caerdydd, cyn dechrau ei hastudiaethau a'i hyfforddiant ffurfiol ar gyfer ordeinio i'r Eglwys yng Nghymru ym 2024. Mae gan Sharon galon dros y rhai ar yr ymylon ac, dros y blynyddoedd, mae wedi gweithio a gwirfoddoli gyda gwahanol elusennau sy'n cefnogi'r bregus mewn cymdeithas. Ar hyn o bryd mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn mynychu ei chlwb Jazz lleol yn rheolaidd (er nad mor aml ag y dymunai!)

Parchedig Guto Llywelyn
Cefais fy magu yn Felinfach, Sir Ceredigion. Ar ôl 25 mlynedd fel llyfrgellydd fe wnes newid gyrfa gan fynd yn weinidog yr efengyl gydag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg gan ddechrau fel gweinidog yn ardal Hendy-gwyn yn 2013. Ar ôl deuddeg mlynedd hapus yng Nghwm Taf rwy newydd dderbyn galwad i fod yn weinidog yng Nghwm Gwendraeth. Nôl yn 2018 fe gefais gyfnod o ôr-bryder a straen ac fe wnes dderbyn cymorth gan Wynford Ellis Owen a Cynnal. Ers hynny rwy wedi bod yn mynychu cyfarfodydd Cynnal yn wythnosol yng Nghaerfyrddin. Rwy’n briod gyda Catrin ac rydym yn byw yn Caerbryn ger Rhydaman. Mae gennym ddau o blant yn eu hugeiniau sef Mari a Dafydd. Yn fy amser sbâr rwy’n hoffi chwarae gwyddbwyll a gwylio criced a pêl-droed.

Parchedig Christopher Prew
Roeddwn yn aelod o fwrdd rheoli Cais ac ers ychydig o flynyddoedd bellach yn aelod o bwyllgor ymgynghorol Cynnal ac yn falch o fod yn gysylltiedig â’r gwaith hwn.

Parchedig Ganon Ddr Trystan Owain Hughes
Trystan Owain Hughes yw Cyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, gan gynghori mainc esgobion Cymru ar faterion sy'n ymwneud â ffydd a gweinidogaeth. Mae Trystan wedi ennill MTh o Brifysgol Rhydychen a PhD o Brifysgol Cymru, Bangor. Roedd wedi bod yn ficer eglwys fawr yng Nghaerdydd, yn gaplan prifysgol, yn uwch ddarlithydd mewn amryw o Brifysgolion, ac yn gyfarwyddwr cwrs MA (Diwinyddiaeth) mewn coleg diwinyddol. Mae hefyd wedi'i gyhoeddi'n eang - yn hanes yr eglwys (Winds of Change (UWP 1999) ac mewn diwinyddiaeth ac ysbrydolrwydd (Finding Hope and Meaning in Suffering (SPCK, 2010), The Compassion Quest (SPCK, 2013), Real God in the Real World (BRF, 2013) Living the Prayer (BRF, 2017), Opening our Lives (BRF, 2021), To Hell's Mouth and Back: Pilgrimage, Suffering, and Hope (BRF, 2025)). Mae wedi cyflwyno papurau mewn Prifysgolion ledled y byd, gan gynnwys yn Sydney, Chicago, Philadelphia, Caeredin, a Dulyn. Mae'n ganon emeritws Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd ac mae wedi bod yn gyfrannwr rheolaidd i BBC Radio 2 a BBC Radio 4. Mae Trystan yn briod â Sandra, coreograffydd o'r Almaen, ac mae ganddynt dri o blant, Lukas, Lena, a Macsen, sydd i gyd yn dair ieithog.

Wynford Ellis Owen
Wedi gyrfa o 40 blynedd ym myd y theatr a theledu fel actor, sgwennwr a chyfarwyddwr – ef fu’n gyfrifol am greu’r cymeriadau eiconig, Syr Wynff a Plwmsan a’r cyfresi comedi gyflwynodd inni gymeriadau echreiddig Llanllewyn yn, Porc Peis Bach i S4C - dychwelodd Wynford i’r coleg i’w gymhwyso’n therapydd ym 2006. Yn fuan wedyn penodwyd ef yn brif weithredwr ar Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill. Arweiniodd hynny, ym 2011, at sefydlu Stafell Fyw Caerdydd, y ganolfan gymuned enwog sy’n cynnig triniaeth, cefnogaeth ac ôl-ofal i bobl sy’n dioddef o bob math o ddibyniaethau ac ymddygiadau niweidiol eraill, a’u teuluoedd. Ymddeolodd o’r swydd honno ym 2017, a chael ei gyflogi’n syth fel Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol i CAIS, rhiant gwmni’r Stafell Fyw, er mwyn ymestyn y gwasanaeth i rannau eraill o Gymru a gofalu am rai mentrau penodol fel Cynnal, y gwasanaeth cwnsela i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl, gweithwyr Cristnogol, a’u teuluoedd; Curo’r Bwci, y gwasanaeth i gamblwyr eithafol; ac Enfys, y gwasanaeth cenedlaethol i Feddygon a gweithwyr meddygol eraill. Ef hefyd sy’n arwain holl enciliadau’r Stafell Fyw. Pan unodd CAIS a dwy elusen arall i ffurio, Adferiad Recovery, ym 2021, parhaodd i ofalu am Cynnal, Enfys – ac, yn ddiweddarach, y Stafell Fyw, oedd wedi symud erbyn hynny i ran arall o Gaerdydd. Mae’n credu mai salwch ysbrydol yw dibyniaeth sy’n mynnu datrysiad ysbrydol. Wrth edrych ymlaen at ddathlu 33 mlynedd o sobrwydd yr haf hwn, dywedodd, “Er mwyn newid natur pethau, bu raid imi newid nid y digwyddiadau, ond y meddyliau rheini a greodd y digwyddiadau yn y lle cyntaf.” Mae’n awdur ar dri llyfr hyd yma, a nifer o ddramau llwyfan a radio, ac yn Gymrawd Ymddiriedolaeth Churchill. Ef hefyd ennillodd Wobr Ysbrydoli Cymru’r IWA a’r Western Mail ym 2014, ac mae’n golofnydd rheolaidd i GOLWG, y cylchgrawn wythnosol. Mae’n briod â Meira, arwres ei hunangofiant, Raslas bach a mawr! (Gomer, 2004); yn dad i Bethan a Rwth; ac yn daid balch iawn i Begw, Efa, Bobi, Jac a Jesi Iris. Mae dychweld yn awr at y Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, lle dechreuodd ei yrfa gwnsela, i arwain y Stafell Fyw, Cynnal, a’r fenter Ar-lein chwyldroadol, newydd, Lle I Fyw, er mwyn ymestyn y gwasanaethau hyn, nid yn unig i Gymru gyfan, ond i’r byd, ac ym mhob iaith.